French 75
Coctel Jin gan Jin Talog
Yn y rhan hon o’r byd, rydym yn aml yn profi’r hyn a elwir yn “nosweithiau SA33” yn ystod yr haf. Ni waeth pa mor erchyll y bu’r tywydd yn ystod y dydd, yn aml, tua chwech o’r gloch, bydd yr awyr yn clirio’n wyrthiol, gan adael noson hir a heulog. Ar y nosweithiau hir hyn o haf yma yn y Gorllewin, nid oes dim gwell na gwydraid o French 75, yn enwedig pan fydd ffrindiau neu gymdogion yn galw heibio. Mae’n syndod pa mor boblogaidd rydym wedi dod ers agor y ddistyllfa …
CYNHWYSION
45ml Jin Talog
90ml Siampên brut (neu Prosecco os oes gwell gennych flas melysach)
35 ml Sudd Lemon
3 lwy de o Siwgr Mân
Darn o lemon i’w weini
DULL
Trowch y sudd lemon a’r siwgr yn dda (rydym yn defnyddio ysgydwr coctels)
Ychwanegwch Jin Talog a chiwbiau iâ
Ysgydwch y cyfan yn dda
Llenwch wydr tal â mwy o iâ, a hidlwch y cymysgedd jin drosto
Ychwanegwch ragor o Siampên
Gweinwch gyda sleisen o lemon yn addurn
Ewch â fi i’r jin!
Ymwelwch â’n siop ar lein.