NODEDIG, GLÂN, LLESMEIRIOL AC ORGANIG
Mae Jin Talog yn ffrwyth llawer o arbrofi, amser, a hwyl. Mae ein harwydd-jin yn byrlymu â blas meryw, pa un a fyddwch yn ei yfed ar ei ben ei hun, gyda thonig, neu mewn coctel clasurol.Penderfynom fynd ati i greu ein Jin Sych Llundain ein hunain ac iddo un cynhwysyn botanegol, jin a fyddai’n treiddio trwy’r tonig, heb gimigau, a heb unrhyw gynhwysion anarferol a diangen: dim ond y jin gorau.
DISTYLLU MEWN SYPIAU BACH
Rydym yn dechrau gyda Megan – ein merch-fedydd hyfryd, ac enw ein nano-ddistyllbair; pethau bach yw'r ddau ohonynt. Rydym yn mynd ati’n raddol i dynnu'r olewau naturiol o'n haeron meryw organig, a hynny gan ddefnyddio dull cyfrinachol sy'n sicrhau'r blas meryw gorau. Mae'r copr yn ein distyllbair yn sicrhau purdeb a chlaerder Jin Talog. Rydym wedyn yn mynd ati â llaw i lenwi hyd at 42 o boteli o Jin Talog o bob nano-swp, gan sicrhau bod pob diferyn yn berffaith.JIN SYCH LLUNDAIN O GYMRU?
BETH SYDD EI ANGEN I WNEUD JIN SYCH LLUNDAIN?
Dyma rai ffeithiau diddorol am Jin Sych Llundain:
rhaid iddo fod wedi’i ddistyllu, gan sicrhau bod y cynhwysion botanegol yn dod i gysylltiad â’r gwirod crai – ni ddefnyddir unrhyw rinflasau na thewsuddion rhaid iddo fod â blas meryw yn bennaf rhaid iddo gynnwys gwerth 37.5% neu fwy o ABV (Alcohol yn ôl Cyfaint) ni ddylai gynnwys yr un cynhwysyn artiffisial ni ddylid ychwanegu unrhyw flas na lliw ar ôl iddo gael ei ddistyllu
Dyma alcemeg y broses o ddistyllu jin premiwm fel Jin Talog.
Nid yw pob jin yn Jin Sych Llundain. Mae yna ffyrdd eraill, llai cymhleth, o wneud jin, ond credwn mai dull Sych Llundain sy’n cynhyrchu’r jin gorau, ac iddo’r blas puraf.
Mae gwneud jin yn y ffordd hon yn gofyn am lawer o ymroddiad, er mwyn sicrhau bod y cynnyrch terfynol yn wir yn cyfleu ein brwdfrydedd a’n hymrwymiad. Rydym yn gobeithio eich bod chi’n cytuno.
JIN CYMYLOG?
dim angen ambarél!
PAM YDY JIN TALOG YN GYMYLAU AMBELL WAITH?
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein jin hyd yn oed yn well (a’n bywyd hyd yn oed yn fwy anodd!), trwy ddefnyddio cyn lleied o gynhwysion â phosibl i sicrhau blas pur, syml a chlir.

Juniper Organig
DŴR O GYMRU
Mae’r dŵr ffynnon yn cael ei gynaeafu ar ein fferm, gan darddu rywle allan yng Ngogledd yr Iwerydd. Mae hi’n aml yn tywallt y glaw arnom, ac mae’r dŵr glaw hwnnw’n treiddio’n araf ac yn naturiol ryw 180 m i’r ddaear, trwy’r creigiau Ordofigaidd a Silwraidd dan ein traed, sy’n 450 miliwn mlwydd oed. Rydym yn casglu’r dŵr glân ffres gwych hwn ac yn ei ddefnyddio ar unwaith, heb ychwanegu dim.Spirit Organig
GWIRODYDD ORGANIG
Mae ein holl wirodydd grawn yn organig, ac yn cael eu distyllu o rawnfwydydd organig. Darperir yr achrediad organig gan Gynllun Organig Cymru, cynllun y mae gennym berthynas agos ag ef.
Dwr Cymru
MERYW ORGANIG
Yn anffodus, nid ydym yn cael digon o heulwen yng Nghymru i dyfu ein haeron meryw ein hunain, felly rydym yn defnyddio meryw sy’n cael eu cyrchu’n gyfrifol gan gynhyrchwyr organig yn Uzbekistan, a’r rheiny’n feryw Masnach Deg.JIN TALOG AC IDDO UN CYNHWYSYN BOTANEGOL
Merwyn yn BendantJIN TALOG AC IDDO DDAU GYNHWYSYN BOTANEGOL
Blasus, natur dymhorol, ac anghyffredinRydym yn llenwi ein poteli â llaw, ac yn eu labelu â rhif swp/potel, y mae un ohonom yn ei lofnodi’n falch. Gall lefelau’r alcohol amrywio ychydig yn ôl y swp, gan adlewyrchu natur grefftus ein prosesau. Byddwn, wrth gwrs, yn anodi’r botel â’r ABV cywir (sydd bob amser rhwng 40% a 45%), gan ddibynnu ar y swp dan sylw.
MAE’R CYFAN YN SWNIO’N SYML …
Ond mae’n dwyllodrus o anodd ei wneud yn iawn! Credwn fod ein holl waith caled a chrafu pen wedi talu ar ei ganfed.