FEL EIN JIN, MAE EIN BYWYD WEDI BOD YN LLAWN TROEON TRWSTAN I GYRRAEDD Y MAN HWN
Bechgyn o Gymru, a symudodd i Lundain a threulio gormod o amser yn y byd corfforaethol, cyn gwneud iawn a dychwelyd i Gymru i dorchi llewys a chynhyrchu rhywbeth diriaethol – defaid brid prin a jin.Rydym wedi cael llawer o hwyl, ac wedi syrthio sawl tro i’r mwd, ac rydym wedi dysgu llawer gan y tir a’r da byw – fel y byddai rhywun o’r byd corfforaethol yn ei ddweud, mae wedi bod yn broses ddysgu fawr.
Nid ydym yn feistr-ddistyllwyr, ond rydym yn meistroli crefft distyllu. Roedd gennym yr amser a’r ymroddiad i arbrofi, a natur benderfynol i wneud pethau’n iawn, i sefyll yn falch ac, wrth gwrs, i greu’r jin perffaith â llaw.
Pe na fyddem ni’n ei yfed, sut y gallem ddisgwyl i neb arall wneud hynny?