Jin Talog - Jin Organig o Gymru

EIN MILLTIR SGWÂR
In Wales the concept of a “milltir sgwâr” (or square mile) can be translated as our “patch” or “stamping ground”.

MAE JIN TALOG YN GWBL GYMREIG, AC WEDI’I WREIDDIO YN EIN HARDAL LEOL.

Mae ein milltir sgwâr wedi’i chanoli o amgylch pentref Talog yng Ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin wledig. Tir amaethyddol sydd yn yr ardal hon, ffermydd godro a defaid yn bennaf. Mae’r dirwedd yn fryniog ac yn wyrddlas, gyda chymoedd serth sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de, wedi’u cerfio gan ddŵr tawdd rhewlifoedd ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf.

BYWYD YN TALOG

Mae yna ymdeimlad cryf o gymuned a diwylliant yma, ac mae’r calendr ffermio, digwyddiadau lleol, eisteddfodau a sioeau amaethyddol yn dal i fod yn rhan annatod o fywyd yr ardal. Er nad yw’n fferm odro mwyach, rydym ’nawr yn magu defaid Balwen (brid prin o ddefaid mynydd brodorol yn Sir Gaerfyrddin), ynghyd â gwyddau, moch ac ieir.

Mochyn Jin Talog

EIN NANO-DDISTYLLFA

Buom yn meddwl yn ddwys ynghylch lle i leoli’r nano-ddistyllfa ar y fferm. Yn y pen draw, y beudy aeth â hi. Dyna’r lleoliad gorau, yn ôl pob golwg, o ran golau, ac roedd yna ddigon o le i’r ddistyllbair. Yn fwyaf pwysig, dyna’r adeilad sydd agosaf at y ffermdy (mae hi’n bwrw glaw yn aml yn yr ardal hon!). Ar ôl mynd trwy’r holl waith paratoi diflas (ond pwysig) mewn perthynas â thrwyddedu, diogelwch tân, hylendid bwyd, ac ati, o’r diwedd, roedd pethau’n dechrau siapio. Nid yw’r beudy’n adleisio synau’r fuches, yn dod i gael ei godro ddwywaith y dydd, mwyach. Yn lle hynny, rydym yno’n brysur wrth ein gwaith – yn distyllu, yn potelu, yn labelu ac yn pacio popeth â llaw, gan sicrhau bod bob swp bach o Jin Talog y gorau y gall fod.

Nano Still
DISTYLLU
Meryw, dŵr o Gymru, gwirod grawn organig, a llawer o waith caled!
Bottling Jin Talog
POTELU
Mae pob potel o Jin Talog yn cael ei llenwi a’i labelu â llaw
Jin Talog deliveries
CYFLENWI
Yn syth o’r fferm i chi!



JIN WEDI’I WNEUD Â LLAW

Yma yn Jin Talog, rydym yn gwneud popeth â llaw, a hynny’n ddyfal ac yn ofalus. Mae maint bach ein distyllfa yn ein galluogi i fireinio ein jin â chariad a sylw.

Ni fyddem yn newid dim!

Ewch â fi i’r jin!

Ymwelwch â’n siop ar lein.

Shopping Cart

CLWB JIN

Byddem wrth ein bodd yn rhoi gwybod ichi yn gyntaf pan fyddwn yn rhyddhau sypiau newydd o jins argraffiad cyfyngedig, neu god disgownt neu hyd yn oed i rannu lluniau o ŵyn newydd-anedig ar y fferm. Os oes unrhyw beth o ddiddordeb, yna byddem wrth ein bodd yn cadw mewn cysylltiad.

Mwyna' byth y man ni bôm - felly ni fyddwn yn peledu'ch blwch derbyn yn llwyr. Mae hynny'n addewid.

DIM DIOLCH, CAEWCH Y POPUP