ORGANIG A CHYNALIADWY
Sut yr ydym yn sicrhau bod ein jin mor gynaliadwy ac amgylcheddol gyfrifol â phosibl?
Mae sicrhau effaith isel yn eithriadol o bwysig i ni. Yn ein bywydau bob dydd rydym yn ymdrechu i leihau ein hôl-troed amgylcheddol cymaint â phosibl. Rydym yn ailgylchu, yn atgyweirio, yn ailddefnyddio, yn tyfu ein bwyd ein hunain, ac yn magu defaid, gwyddau, ieir a moch yn y ffordd fwyaf naturiol posibl. Roedd yn gwbl amlwg y byddai Jin Talog yn mabwysiadu’r gwerthoedd hyn.
EIN DISTYLLFA SYSTEM GAEEDIG
Rydym yn distyllu gan ddefnyddio system gaeedig sydd wedi’i dylunio’n glyfar (gennym ni) i ddileu glanhawyr cemegol a gwastraff. Nid oes unrhyw wastraff! Mae’r meryw’n cael eu compostio ar ôl eu defnyddio, ac mae’r dŵr golchi’n cael ei storio fel dŵr llwyd i ddyfrio ein coed ffrwythau.
Mae’r holl ddeunydd pacio yn fioddiraddiadwy ac, wrth gwrs, mae’r poteli yn rhai amldro ac ailgylchadwy. Credwn fod y dyluniad cain hwn yn addas iawn i’w ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd eraill ar ôl i chi fwynhau’r jin. A chofiwch archebu potel arall!
Os byddwch yn archebu ar-lein, bydd eich potel yn cael ei phacio’n ofalus gan ddefnyddio ein gwlân ein hunain o’n praidd o ddefaid Balwen. Mae ein defaid yn cael eu cneifio ar y fferm bob haf. Rydym wedyn yn paratoi’r gwlân gan ddefnyddio proses eplesu naturiol hynafol o’r enw “saim gwlân”. Mae’r broses ysgafn hon, nad yw’n defnyddio unrhyw garbon o gwbl, yn glanhau ein cnu mewn ffordd naturiol dros gyfnod o fis.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn ailddefnyddio’n gwlân pan fydd eich potel o Jin Talog yn cyrraedd. Peidiwch â’i daflu i’r sbwriel, oherwydd gall gael ei ddefnyddio at nifer o ddibenion. Gellir ei gompostio, o leiaf.
Rydym yn dawelach ein meddwl o wybod ein bod yn cael effaith isel iawn ar ein planed, ac yn cynhyrchu jin gwych ar yr un pryd. Mae pawb ar eu hennill! Iechyd da!
Ewch â fi i’r jin!
Ymwelwch â’n siop ar lein.