Ar lan y môr mae rhosys cochion
Ar lan y môr mae lilis gwynion
Ar lan y mor, mae gŵyl fwyd mor….
Rydyn ni’n hoffi bod wrth lan y môr – yn enwedig pan fydd hi’n Ŵyl Sea 2 Shore Aber y dydd Sul nesaf, 11eg o Awst.
Mae gŵyl fwyd môr flynyddol Sea 2 Shore yn cael ei chynnal ar Bromenâd Aberystwyth gyda phob math o stondinau a gweithgareddau, arddangosiadau coginio a blasu sampl gan arbenigwyr pysgod a chogyddion gwestai lleol.
Bydd ystod eang o weithgareddau sy’n addas i’r teulu cyfan. Bydd gweithgareddau plant yn cynnwys go-cartio, trampolinau, paentio wynebau a llawer o bethau hwyl eraill i’w gwneud.
Ewch am dro rhwng y stondinau bwyd a mwynhewch y llu o aroglau o paella i pizza a phopeth rhyngddynt. Yna blaswch gawsiau, gwinoedd a gwirodydd lleol, prynwch bysgod lleol, llysiau organig a chig, efallai cacennau hyfryd, ac wrth gwrs Jin Talog.
Bydd yr ŵyl fwyd yn cychwyn am 10yb tan 5yp – mynediad am ddim i bawb ei fwynhau.